Y Seintiau

Yn ogystal â golygu testunau Cymraeg, rydym yn casglu gwybodaeth am seintiau Cymru – yn seintiau brodorol a rhyngwladol – a’r gobaith yw y bydd y wefan yn gasgliad o waith dibynadwy ar bob agwedd o’r pwnc.

Tudalen o'r llyfr The Lives of British Saints.
Testun a darlun­iau o S. Baring Gould & John Fisher, Lives of British Saints, cyf. i, 1907.
Llun: Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd

Rhwng 1907 ac 1913, cyhoeddodd Sabine Baring-Gould a John Fisher The Lives of British Saints, pedair cyfrol yn casglu ynghyd y traddodiadau a gysylltir â phob un o seintiau cynnar Cymru (a rhannau eraill o Brydain). Mae’r llyfrau yn drysorfa o ffeithiau ac o storïau ac yn gloddfa werthfawr o wybodaeth hyd heddiw. Serch hynny, roedd yr awduron yn aml yn derbyn eu ffynonellau yn anfeirniadol, ac yn tueddu i gyfuno seintiau gwahanol â’i gilydd pan oedd yr enwau’n debyg, gan wau naratifau manwl wedi eu seilio ar gamdybiaethau a dyfalu. Mae nifer o’r testunau yr ydym ni bellach yn eu golygu ar goll yn gyfan gwbl o’r casgliad.

Gwydr lliw canoloesol yn dangos esgob.
O bosib Sant Beuno neu Sant Deiniol, yn ôl pob tebyg o ddechrau’r unfed ganrif ar bymtheg, Eglwys Beuno Sant, Penmorfa, Gwynedd.
Llun: Martin Crampin

Bydd tudalennau ar bob sant yn ein Seintiadur newydd, yn cofnodi, e.e., cysegriadau, enwau lleoedd a dyddiau gŵyl. Rydym hefyd yn paratoi crynodebau o ffynonellau Lladin a rhestrau o ddelweddau perthnasol.

Map sydd yn dangos lleoedd cysylltiedig â Chynog (enwau lleoedd, cysegriadau, disgrifiadau):

Cynog_thumb