| |

Padarn a Seintiau Cymru

Ffurf ar groes cerrig Llanbadarn Fawr
Ffigur ar groes Llanbadarn Fawr, mwy na thebyg o’r ddegfed ganrif, Llanbadarn Fawr, Ceredigion.
Llun Martin Crampin

Yn ystod pedair blynedd y prosiect cychwynnol, ‘Cwlt y Seintiau yng Nghymru’ (2013–17), buom yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau un prynhawn mewn lleoliadau ar hyd a lled Cymru, ym Mangor, Tyddewi, Llanilltud Fawr a Threffynnon.

Rydym yn ôl y gwanwyn hwn, i ateb y galw! Gofynnwyd am gymorth y prosiect i gynnal digwyddiad tebyg yn Llanbadarn Fawr, wrth i grŵp gwaith lleol fynd ati i drefnu cyfres o ddigwyddiadau yn 2017 a fydd yn coffáu dyfodiad Sant Padarn i’r ardal yn y flwyddyn 517.

Ar 1 Ebrill am 2 o’r gloch ceir cyfres o sgyrsiau am Sant Padarn a seintiau Cymru yn Eglwys Sant Padarn, Llanbadarn Fawr, a fydd yn tynnu ar dystiolaeth llenyddiaeth Gymraeg, enwau lleoedd a diwylliant gweledol. Y siaradwyr fydd Gerald Morgan, Paul Russell, David Parsons, Martin Crampin a Peter Lord. I gofrestru cysylltwch ag Angharad Elias.

Bydd y prosiect newydd, ‘Vitae Sanctorum Cambriae’ (Bucheddau Lladin Seintiau Cymru), yn cynnal digwyddiadau tebyg yng Nghymru a Lloegr dros y blynyddoedd nesaf.