| |

Darganfod ysgrifydd llawysgrif Yale

Daeth llawysgrif Yale, Llyfrgell Beinecke Osborn fb229 i’r amlwg yn 2018 gyda’i hystod gyfoethog o destunau, gan gynnwys fersiwn unigryw o fuchedd Ladin Cybi. Bellach, mae Gruffudd Antur, sy’n cydweithio â Daniel Huws ar ei Repertory of Welsh Manuscripts and Scribes, wedi darganfod mai Robert Davies II o Wysanau (m. 1633) oedd yn gyfrifol am gopïo’r gyfrol.

Mae’r darganfyddiad hwn yn ein galluogi i leoli’r llawysgrif yn llawer gwell ac yn rhoi llawer o wybodaeth newydd inni am union gyd-destun ei chopïo. Roedd Robert Davies â chysylltiad agos â Threffynnon ac mae hyn yn esbonio ffocws y gyfrol ar Wenfrewy, er enghraifft. Mae dangos mai gwaith copïo un dyn oedd y llawysgrif hefyd yn effeithio ar y ffordd rydym yn ei darllen a’i deall.

Roedd Robert Davies hefyd yn gyfrifol am gopïo rhannau o lawysgrif LLGC 7011 a llawysgrif Caerdydd 2.33. Cyn hyn, ni wyddid mai reciwsant oedd Davies, ond mae llawysgrif Yale yn dangos ei gysylltiadau agos â chenhadaeth yr Iesuwyr ym Mhrydain. Mae Davies yn ffigwr sy’n haeddu llawer mwy o sylw a gall rhagor o ymchwil arwain at well dealltwriaeth o’i waith ac o hanes y teulu tra phwysig hwn o Sir y Fflint.

Hoffem ar ran tîm y prosiect longyfarch Gruffudd yn wresog ar ei ddarganfyddiad cyffrous.