| | |

Cynadleddau Haf 2019

Bu aelodau presennol a chyn-aelodau o dîm y prosiect yn brysur yn cyflwyno papurau mewn nifer o gynadleddau rhyngwladol dros yr haf.

Cynhaliodd y prosiect dair sesiwn lawn yn rhan o Gyngres Ryngwladol Astudiaethau Canoloesol Leeds ar 1 Gorffennaf 2019 – cyfanswm o naw papur i gyd, a draddodwyd gan aelodau hen a newydd o’r tîm:

I: Seintiau brodorol yng Nghymru

Barry James Lewis, ‘The Latin Hagiography of Medieval Wales: How Much Have We Lost?’
Angela Zielinski Kinney, ‘A Saintly Cadence: Rhythm, Rhyme, and Style in the Vita Gundleii’
Jenny Day, ‘Modernizing, Rationalizing, and Innovation in the Welsh Life of St Mary of Egypt’
(yn y gadair: David Parsons)

II: Seintiau Cymreig y tu hwnt i Gymru

Rosalind Love,’ The Travels of St Cadoc’
Francesco Marzella, ‘ “Amicus Dei Caradocus, de Cambria oriundus…”: Editing the Lives of Welsh Saints in Nova Legenda Anglie’
Paul Russell, ‘Two Adaptations of the Life of St David’
(yn y gadair: Jenny Day)

III: Testunau a Delweddau

David Callander, ‘The Kentigern Charter, I: A Neglected Text from the St Asaph Manuscripts’
Ben Guy, ‘The Kentigern Charter, II: Saints, Property, and the Foundation of the Bishopric of St Asaph’
Martin Crampin, ‘A Revival of Saints in the Imagery of the Church in Wales’
(yn y gadair: Barry Lewis)

Cyflwynwyd papurau pellach gan aelodau presennol a chyn-aelodau o’r tîm yn yr 16eg Gyngres Astudiaethau Celtaidd Ryngwladol ym Mangor (22–26 Gorffennaf). Roedd y rhai mwyaf perthnasol i waith y prosiect yn cynnwys:

David Callander, ‘Testunau Cymraeg mewn Antholeg Dairieithog: Yale, Llyfrgell Beinecke, Osborn fb 229’
David Parsons, ‘The Limits of Llan: The Anglo-Saxons and the Saints of the Early Welsh Church’
Martin Crampin, ‘Celtic Saints by Celtic Studios: Saints in Stained Glass’

Ym mis Ebrill, bu David Callander yn siarad yng nghynhadledd Cymdeithas Astudiaethau Celtaidd Gogledd America am ddarganfod fersiwn Yale o fuchedd Cybi, ac ym mis Gorffennaf, bu Martin Crampin yn cyflwyno ei waith ar ddelweddau o’r seintiau mewn eglwysi Catholig yng Nghymru yn y gynhadledd ‘Catholicism, Literature, and the Arts II: Legacies and Revivals’ yn Durham.