| |

Cyfweliadau ar y radio a’r teledu

Ym mis Chwefror bu Ann Parry Owen ac Alaw Mai Edwards yn siarad ar Raglen Dei Tomos (Radio Cymru) am y prosiect yn gyffredinol ac am bwysigrwydd y seintiau yn yr Oesoedd Canol. Buont hefyd yn trafod y dyddiau agored a drefnwyd gan y prosiect ac yn arbennig y digwyddiad a oedd i’w gynnal yn Nhyddewi ar 29 Chwefror. Ar 22 Mawrth cefais i fy nghyf-weld ar Prynhawn Da ar gyfer S4C, yn rhan o’r slot ‘Darnau Ohonof’ lle mae’r cyfrannwr yn sôn yn fyr am dri pheth yn y stiwdio. Dewisais un o’r lluniau o fy nghyfres ar ‘Fuchedd Sant Tatheus’, enghraifft o fy nghyfrol ddiweddar o ffenestr liw yn portreadu Dewi Sant, a ffotograff ohonof yn eglwys gadeiriol Tyddewi gyda disgyblion o Goleg Llanymddyfri. Gan gyfeirio at y rhain, roedd modd i mi sôn am ddelweddau gweledol o seintiau a chrybwyll y gyfres o sgyrsiau a’r arddangosfa deithiol y buom yn eu trefnu.