Daeth llawysgrif Yale, Llyfrgell Beinecke Osborn fb229 i’r amlwg yn 2018 gyda’i hystod gyfoethog o destunau, gan gynnwys fersiwn unigryw o fuchedd Ladin Cybi. Bellach, mae Gruffudd Antur, sy’n cydweithio â Daniel Huws ar ei Repertory of Welsh Manuscripts and Scribes, wedi darganfod mai Robert Davies II o Wysanau (m. 1633) oedd yn gyfrifol am … Continue reading Darganfod ysgrifydd llawysgrif Yale
Category Archives: Uncategorized
Darganfyddiad: Buchedd Cybi
Mae prosiect Vitae Sanctorum Cambriae yn falch iawn o gyhoeddi darganfyddiad fersiwn newydd o Fuchedd Gybi sy’n dyddio o’r oesoedd canol. Daeth David Callander (cymrawd ymchwil gyda VSC yn 2017–8) o hyd i’r Fuchedd tra’n ymchwilio i’r ysgolhaig a’r Iesuwr Gwilym Farrar. Ceir yr unig gopi o’r Fuchedd yn Yale, Llyfrgell Beinecke, Osborn fb 229. … Continue reading Darganfyddiad: Buchedd Cybi
Cerddi i Ddewi Sant
Mae dwy gerdd i Ddewi Sant wedi eu cyhoeddi Iolo Goch, Mawl i Ddewi Sant Mae’r cywydd hir hwn gan un o feirdd mwyaf y bedwaredd ganrif ar ddeg yn arwydd clir o bwysigrwydd cenedlaethol cwlt Dewi Sant. Bardd o’r gogledd-ddwyrain oedd Iolo Goch, ac wrth ddatgan ei fwriad i ymgymryd â’r daith hir i … Continue reading Cerddi i Ddewi Sant
Ein testun cyntaf yn cael ei gyhoeddi ar lein!
Dyma ‘Ganu i Gadfan’, awdl faith (178 llinell) a ganwyd gan Lywelyn Fardd tua’r flwyddyn 1150. Hon yw’r gynharaf o dair awdl a ganwyd gan feirdd y ddeuddegfed ganrif i’r saint: bydd ‘Canu Tysilio’ gan Gynddelw Brydydd Mawr a ‘Chanu i Ddewi’ gan Wynfardd Brycheiniog yn ymddangos ar y wefan yn fuan iawn. Diogelwyd ‘Canu … Continue reading Ein testun cyntaf yn cael ei gyhoeddi ar lein!
Y Nawfed Colocwiwm Bangor ar Gymru’r Oesoedd Canol
Yn y colocwiwm hwn, ar 20 Hydref 2018, bydd Martin Crampin yn rhoi papur ar ‘The Imaging of Saints in Medieval Wales’, a bydd Ann Parry Owen yn traddodi Darlith Gyweirnod ‘Cain awen gan awel bylgaint – Canu Beirdd y Tywysogion i Gadfan, Tysilio a Dewi’. Bydd Ann yn tynnu sylw at ei golygiad newydd o Ganu … Continue reading Y Nawfed Colocwiwm Bangor ar Gymru’r Oesoedd Canol
Arddangosfa yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy
Yn dilyn saib yn y gweithgareddau, ac wedi i ni orfod canslo digwyddiad yn Lincoln ym mis Mawrth oherwydd eira, mae arddangosfa’r ‘Seintiau yng Nghymru’ bellach yn ôl, ac i’w gweld yn eglwys gadeiriol Llanelwy. Cynhelir yr arddangosfa rhwng 30 Gorffennaf a 4 Medi, pan fydd aelodau o’r tîm yn ymweld â’r eglwys gadeiriol i … Continue reading Arddangosfa yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy
Seintiau Llandaf
Bu tîm y prosiect yn ymweld â chadeirlan Llandaf ar 11 Tachwedd 2017, wrth i ni ailafael yn ein teithiau i wahanol rannau o Gymru i rannu ffrwyth ein hymchwil. Y siaradwyr y tro hwn oedd David Parsons, Ben Guy, Paul Russell a Martin Crampin. Roedd yr amrywiol bynciau a drafodwyd yn cynnwys eglwysi sydd … Continue reading Seintiau Llandaf
Vitae Sanctorum Cambriae: Bucheddau Lladin Seintiau Cymru
Daw’r nawdd ar gyfer prosiect ‘Cwlt y Seintiau yng Nghymru’ i ben ym mis Mawrth 2017, ac rydym wrthi’n cwblhau’r gwaith ar y golygiad ar lein a’r arddangosfa a gynhelir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Er hyn, mae’n hyfrydwch gennym adrodd y bydd gwaith newydd ar fucheddau seintiau yng Nghymru yn mynd rhagddo gan inni sicrhau … Continue reading Vitae Sanctorum Cambriae: Bucheddau Lladin Seintiau Cymru
Santes Gwenfrewy yn Eglwys Gadeiriol Amwythig
Daethpwyd â chreiriau Gwenfrewy o Wytherin i abaty Amwythig yn 1138. Dewiswyd y santes yn gyd-nawddsant ar gyfer esgobaeth Gatholig Amwythig, a ffurfiwyd yn 1851 ac a oedd yn ymestyn yn wreiddiol o Orllewin Canolbarth Lloegr ar draws Cymru yr holl ffordd i Fôn, cyn ffurfio esgobaeth Mynyw yn 1895. Agorwyd eglwys gadeiriol Amwythig yn … Continue reading Santes Gwenfrewy yn Eglwys Gadeiriol Amwythig