Bucheddau’r Seintiau

Capel Ffynnon, Treffynnon.
Capel Ffynnon, Treffynnon, o’r ddiwedd y bymthegfed ganrif. Llun: Martin Crampin

A ffan glybv yr ysgymvnedic was i dremygv velly, tynv y kledde a orvc, a llaδ i ffenn. A ffan ddigwyddawδ penn y vorwyn i’r llawr, yn yr vn lle i tarddoδ ffynawn loywaf a thekaf ysyδ yn llithraw yn wastad ir hynny hyd heddiw, ac yn rroi iechyd i lawer o gleivion ir hyny hyd heddiw o wyrthiav y wenvydedic wyry.

Buchedd Gwenfrewy, LlGC Peniarth 27ii, ail hanner y bymthegfed ganrif

Testunau rhyddiaith hagiograffyddol sy’n adrodd hanesion am y seintiau brodorol Cymreig, ynghyd â’r seintiau rhyngwladol, yw’r bucheddau. Maent gan amlaf yn cynnwys yr holl draddodiadau a’r storïau sy’n gysylltiedig â seintiau neu santesau penodol, gan gynnwys eu llinach, eu gwyrthiau rhyfeddol a’u cysylltiadau lleol (a adlewyrchir mewn enwau lleoedd ledled Cymru). Honnir i fwyafrif y seintiau brodorol fyw yn ystod y bumed a’r chweched ganrif, ond cofnodwyd eu bucheddau Cymraeg mewn llawysgrifau o’r bedwaredd ganrif ar ddeg ymlaen, megis ‘Buchedd Dewi’ a ‘Buchedd Gwenfrewy’. Addaswyd hefyd o leiaf bum testun ar hugain o fucheddau’r seintiau rhyngwladol i’r Gymraeg o’r drydedd ganrif ar ddeg ymlaen, megis y casgliad o fucheddau seintiau yn llawysgrif Llanstephan 34. Gwelir dylanwad gweithiau mawr Lladin a Saesneg Canol ar y rhain.

 

Mae’r deunydd sydd ar y tudalen hwn ac ar y rhai a restrir isod yn deillio o’r arddangosfa a gynhaliwyd yn ddiweddar ym Mangor, Tyddewi, Llanilltud Fawr a Threffynnon.


Seintiau yng Nghymru’r Oesoedd Canol

Cerddi i’r Seintiau
Achau’r Seintiau
Seintiau yn y Cyfnod Modern