Bu aelodau presennol a chyn-aelodau o dîm y prosiect yn brysur yn cyflwyno papurau mewn nifer o gynadleddau rhyngwladol dros yr haf. Cynhaliodd y prosiect dair sesiwn lawn yn rhan o Gyngres Ryngwladol Astudiaethau Canoloesol Leeds ar 1 Gorffennaf 2019 – cyfanswm o naw papur i gyd, a draddodwyd gan aelodau hen a newydd o’r … Continue reading Cynadleddau Haf 2019
All posts by Martin Crampin
Darganfyddiad: Buchedd Cybi
Mae prosiect Vitae Sanctorum Cambriae yn falch iawn o gyhoeddi darganfyddiad fersiwn newydd o Fuchedd Gybi sy’n dyddio o’r oesoedd canol. Daeth David Callander (cymrawd ymchwil gyda VSC yn 2017–8) o hyd i’r Fuchedd tra’n ymchwilio i’r ysgolhaig a’r Iesuwr Gwilym Farrar. Ceir yr unig gopi o’r Fuchedd yn Yale, Llyfrgell Beinecke, Osborn fb 229. … Continue reading Darganfyddiad: Buchedd Cybi
Abaty Caerloyw a Bucheddau’r Seintiau Cymreig
Cynhaliodd tîm y prosiect brynhawn o sgyrsiau yng nghabidyldy cadeirlan Caerloyw ar 3 Tachwedd 2018. Mae arwyddocâd Caerloyw yn gydnabyddedig fel canolbwynt i gasgliad o draddodiadau sy’n ymwneud â’r seintiau yng Nghymru, ac mae’r ffaith fod bucheddau Cadog, Gwynllyw, Padarn ac eraill wedi eu cynnwys yn nghasgliad Cotton Vespasian o fucheddau Lladin yn adlewyrchu patrwm … Continue reading Abaty Caerloyw a Bucheddau’r Seintiau Cymreig
Asa, Cyndeyrn a Seintiau Cymru
Ar 4 Medi 2018 daeth cyfle i dîm y prosiect ymweld ag Eglwys Gadeiriol Llanelwy lle cawsom rannu ffrwyth ein hymchwil a chyflwyno’r syniadau ysgolheigaidd diweddaraf ynglŷn ag Asa a Chyndeyrn. Roedd gwaith David Callendar ar fuchedd Asa o Lyfr Coch Asa – llawysgrif a gollwyd, ond nid cyn i’r fuchedd gael ei thrawsgrifio yn … Continue reading Asa, Cyndeyrn a Seintiau Cymru
Arddangosfa yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy
Yn dilyn saib yn y gweithgareddau, ac wedi i ni orfod canslo digwyddiad yn Lincoln ym mis Mawrth oherwydd eira, mae arddangosfa’r ‘Seintiau yng Nghymru’ bellach yn ôl, ac i’w gweld yn eglwys gadeiriol Llanelwy. Cynhelir yr arddangosfa rhwng 30 Gorffennaf a 4 Medi, pan fydd aelodau o’r tîm yn ymweld â’r eglwys gadeiriol i … Continue reading Arddangosfa yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy
Seintiau Llandaf
Bu tîm y prosiect yn ymweld â chadeirlan Llandaf ar 11 Tachwedd 2017, wrth i ni ailafael yn ein teithiau i wahanol rannau o Gymru i rannu ffrwyth ein hymchwil. Y siaradwyr y tro hwn oedd David Parsons, Ben Guy, Paul Russell a Martin Crampin. Roedd yr amrywiol bynciau a drafodwyd yn cynnwys eglwysi sydd … Continue reading Seintiau Llandaf
Cynhadledd Chwedlau’r Seintiau
Daeth aelodau a chyn-aelodau o baneli ymgynghorol prosiect ‘Cwlt y Seintiau’ a phrosiect ‘Vitae Sanctorum Cambriae’ ynghyd yn Aberystwyth ar gyfer cynhadledd ‘Chwedlau’r Seintiau’, a gynhaliwyd yn y Llyfrgell Genedlaethol ar 3 Mehefin 2017 Bu’r siaradwyr yn trafod bucheddau Lladin a Chymraeg Dewi Sant; bucheddau Cymraeg Martin a Chollen; barddoniaeth Gymraeg o’r ddeuddegfed ganrif sy’n … Continue reading Cynhadledd Chwedlau’r Seintiau
Padarn a Seintiau Cymru
Yn ystod pedair blynedd y prosiect cychwynnol, ‘Cwlt y Seintiau yng Nghymru’ (2013–17), buom yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau un prynhawn mewn lleoliadau ar hyd a lled Cymru, ym Mangor, Tyddewi, Llanilltud Fawr a Threffynnon. Rydym yn ôl y gwanwyn hwn, i ateb y galw! Gofynnwyd am gymorth y prosiect i gynnal digwyddiad tebyg yn … Continue reading Padarn a Seintiau Cymru
Chwedlau’r Seintiau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae prosiect ymchwil ‘Cwlt y Seintiau yng Nghymru’ yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn Aberystwyth wedi bod wrthi’n golygu ac yn cyfieithu bucheddau canoloesol seintiau Cymru, barddoniaeth sydd wedi ei chyfeirio atynt, ac achau’r seintiau. Wrth i’r prosiect dynnu tua’r terfyn, cynhelir arddangosfa yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, rhwng 18 Chwefror a … Continue reading Chwedlau’r Seintiau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Vitae Sanctorum Cambriae: Bucheddau Lladin Seintiau Cymru
Daw’r nawdd ar gyfer prosiect ‘Cwlt y Seintiau yng Nghymru’ i ben ym mis Mawrth 2017, ac rydym wrthi’n cwblhau’r gwaith ar y golygiad ar lein a’r arddangosfa a gynhelir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Er hyn, mae’n hyfrydwch gennym adrodd y bydd gwaith newydd ar fucheddau seintiau yng Nghymru yn mynd rhagddo gan inni sicrhau … Continue reading Vitae Sanctorum Cambriae: Bucheddau Lladin Seintiau Cymru