Daeth llawysgrif Yale, Llyfrgell Beinecke Osborn fb229 i’r amlwg yn 2018 gyda’i hystod gyfoethog o destunau, gan gynnwys fersiwn unigryw o fuchedd Ladin Cybi. Bellach, mae Gruffudd Antur, sy’n cydweithio â Daniel Huws ar ei Repertory of Welsh Manuscripts and Scribes, wedi darganfod mai Robert Davies II o Wysanau (m. 1633) oedd yn gyfrifol am … Continue reading Darganfod ysgrifydd llawysgrif Yale
All posts by David Parsons
Cerddi i Ddewi Sant
Mae dwy gerdd i Ddewi Sant wedi eu cyhoeddi Iolo Goch, Mawl i Ddewi Sant Mae’r cywydd hir hwn gan un o feirdd mwyaf y bedwaredd ganrif ar ddeg yn arwydd clir o bwysigrwydd cenedlaethol cwlt Dewi Sant. Bardd o’r gogledd-ddwyrain oedd Iolo Goch, ac wrth ddatgan ei fwriad i ymgymryd â’r daith hir i … Continue reading Cerddi i Ddewi Sant
Ein testun cyntaf yn cael ei gyhoeddi ar lein!
Dyma ‘Ganu i Gadfan’, awdl faith (178 llinell) a ganwyd gan Lywelyn Fardd tua’r flwyddyn 1150. Hon yw’r gynharaf o dair awdl a ganwyd gan feirdd y ddeuddegfed ganrif i’r saint: bydd ‘Canu Tysilio’ gan Gynddelw Brydydd Mawr a ‘Chanu i Ddewi’ gan Wynfardd Brycheiniog yn ymddangos ar y wefan yn fuan iawn. Diogelwyd ‘Canu … Continue reading Ein testun cyntaf yn cael ei gyhoeddi ar lein!
Y Nawfed Colocwiwm Bangor ar Gymru’r Oesoedd Canol
Yn y colocwiwm hwn, ar 20 Hydref 2018, bydd Martin Crampin yn rhoi papur ar ‘The Imaging of Saints in Medieval Wales’, a bydd Ann Parry Owen yn traddodi Darlith Gyweirnod ‘Cain awen gan awel bylgaint – Canu Beirdd y Tywysogion i Gadfan, Tysilio a Dewi’. Bydd Ann yn tynnu sylw at ei golygiad newydd o Ganu … Continue reading Y Nawfed Colocwiwm Bangor ar Gymru’r Oesoedd Canol
Y Seintiau a Los Angeles
Newydd ddychwelyd ar ôl bod yn rhoi papur ar fapio cwlt y seintiau yng Nghymru i 38ain Gynhadledd Geltaidd Flynyddol Prifysgol Califfornia, a gynhaliwyd yn Los Angeles, 10–12 Mawrth. Cyflwynais fy hoff esiampl, sef Sant Cynog o Frycheiniog – mewn ffurf estynedig ac am y tro olaf! – gan drafod y gwahanol elfennau sy’n rhan … Continue reading Y Seintiau a Los Angeles
Eglwys Gadeiriol Bangor
Wedi cael prynhawn gwych o sgyrsiau yn Eglwys Gadeiriol Bangor. Braf cael croesawu’r Ahtro Barry yn ôl o Ddulyn. Cawsom groeso cynnes gan archddiacon Bangor, Paul Davies: diolch yn fawr iddo ef a’i gydweithwyr. Yn dilyn sgyrsiau yng Nghanolfan yr Esgobaeth, aethom ymlaen i’r Esglwys Gadeiriol a thywysodd Martin Crampin ni o gwmpas y seintiau mewn … Continue reading Eglwys Gadeiriol Bangor
Digwyddiadau agored ym Mangor (12 Medi) a Llanilltud Fawr (7 Tach)
Seintiau Canoloesol Yng Ngwynedd Dydd Sadwrn 12 Medi 2015, 2.00–5.00 Canolfan yr Esgobaeth, Clôs y Gadeirlan, Bangor Sgyrsiau Bangor PDF Seintiau Canoloesol Ym Morgannwg Dydd Sadwrn 7 Tachwedd 2015, 2.00–5.00 Eglwys Sant Illtud, Llanilltud Fawr Sgyrsiau Llanilltud Fawr PDF