| |

Seintiau Canoloesol Ym Morgannwg

Llwyddodd ein prynhawn o sgyrsiau yn Llanilltud Fawr i ddenu cynulleidfa sylweddol ac roeddem yn ddiolchgar i’n gwesteiwyr yn yr eglwys – eglwys y credir iddi gael ei sefydlu gan Sant Illtud. Atgoffodd Karen Jankulak ni o’r ffaith mai hon yw un o’r safleoedd Cristnogol cynnar y gallwn fod fwyaf sicr yn ei chylch yng Nghymru, a hynny oherwydd cysylltiad unigryw Illtud a’i fynachlog gynnar â Buchedd Samson, a ysgrifennwyd o bosibl yn y seithfed ganrif. Mae hyn – efallai’n unigryw – yn dwyn Cristnogaeth ganoloesol gynnar yn ôl yn nes at ddysg hynafol ym Mhrydain yn niwedd y cyfnod Rhufeinig.

Cyflwynodd Jane Cartwright y prosiect a’r gwaith yr ydym yn ei wneud ar fucheddau seintiau canoloesol yn Gymraeg, gan ganolbwyntio’n arbennig ar fuchedd Cymraeg Mair Magdalen, y mae delwedd ohoni i’w gweld o  hyd ar fur gogleddol y gangell, yn un o nifer o baentiadau canoloesol sydd wedi goroesi ar furiau’r eglwys. Roedd llawer o ddiddordeb yn sgwrs David Parsons ar enwau lleoedd ym Morgannwg sy’n cynnwys enwau seintiau, ac i gloi bûm innau’n olrhain hanes ailgyflwyno delweddau o seintiau i eglwysi yn yr ardal yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed, gydag enghreifftiau o ddarluniau o Illtud.

Darllenodd Dafydd Johnston ran o gerdd Lewys Morgannwg i Illtud, a gafodd ei datgan yn yr eglwys yn yr unfed ganrif ar bymtheg mae’n rhaid.