| | |

Cerddi i Ddewi Sant

Mae dwy gerdd i Ddewi Sant wedi eu cyhoeddi

Diwedd cywydd Iolo Goch yn Llsgr Peniarth 53 (diolch i’r Llyfrgell Genedlaethol Cymru)

Iolo Goch, Mawl i Ddewi Sant

Mae’r cywydd hir hwn gan un o feirdd mwyaf y bedwaredd ganrif ar ddeg yn arwydd clir o bwysigrwydd cenedlaethol cwlt Dewi Sant. Bardd o’r gogledd-ddwyrain oedd Iolo Goch, ac wrth ddatgan ei fwriad i ymgymryd â’r daith hir i Dyddewi cyfeiria at y gred bod tri phererindod i Dyddewi yn gyfwerth ag un i Jerwsalem. Mae’r rhan fwyaf o gynnwys y cywydd yn cyfateb i’r bucheddau Lladin a Chymraeg, ond mae yma ddeunydd ychwanegol a ddeilliai o draddodiadau llafar am y sant yn ôl pob tebyg.

Lewys Glyn CothiAwdl-gywydd i Ddewi Sant

Mae’r gerdd fer hon yn adrodd detholiad bach o’r traddodiadau am Ddewi Sant, ac awgryma’r pwyslais ar Geredigion mai noddwr o’r ardal honno a’i comisiynodd.