| |

Cynhadledd: Caerfyrddin, 16-19 Medi

Cwlt y Seintiau yng Nghymru: Ffynonellau a Chyd-destunau

16–19 Medi 2014
Canolfan Halliwell, Caerfyrddin

Cynhelir y gynhadledd hon fel rhan o’r prosiect ‘Cwlt y Seintiau yng Nghymru: Ffynonellau Cymraeg Canoloesol a’u Trosglwyddiad’, a ariennir gan yr AHRC. Prif nod y prosiect yw creu golygiad electronig o’r farddoniaeth a gyfeiriwyd at y seintiau, bucheddau rhyddiaith y seintiau ac achau’r seintiau, sef y tri math o destun sy’n ffurfio corpws hagiograffi’r Gymraeg.

Yn y gynhadledd hon trafodir y testunau hyn. Y bwriad hefyd yw eu lleoli mewn sawl cyd-destun. Gellir, felly, drafod holl rychwant yr ymatebion lleol i lên hagiograffyddol ar draws y gwledydd Celtaidd, Prydain ac Ewrop.

Mae cofrestru ar lein ar agor: https://shop.wales.ac.uk/c-117-events.aspx.

Mae’r amserlen drafft ar gael yma: amserlen_drafft1.