Mae prosiect Vitae Sanctorum Cambriae yn falch iawn o gyhoeddi darganfyddiad fersiwn newydd o Fuchedd Gybi sy’n dyddio o’r oesoedd canol. Daeth David Callander (cymrawd ymchwil gyda VSC yn 2017–8) o hyd i’r Fuchedd tra’n ymchwilio i’r ysgolhaig a’r Iesuwr Gwilym Farrar. Ceir yr unig gopi o’r Fuchedd yn Yale, Llyfrgell Beinecke, Osborn fb 229. … Continue reading Darganfyddiad: Buchedd Cybi
Category Archives: Newyddion
Cerddi i Ddewi Sant
Mae dwy gerdd i Ddewi Sant wedi eu cyhoeddi Iolo Goch, Mawl i Ddewi Sant Mae’r cywydd hir hwn gan un o feirdd mwyaf y bedwaredd ganrif ar ddeg yn arwydd clir o bwysigrwydd cenedlaethol cwlt Dewi Sant. Bardd o’r gogledd-ddwyrain oedd Iolo Goch, ac wrth ddatgan ei fwriad i ymgymryd â’r daith hir i … Continue reading Cerddi i Ddewi Sant
Ein testun cyntaf yn cael ei gyhoeddi ar lein!
Dyma ‘Ganu i Gadfan’, awdl faith (178 llinell) a ganwyd gan Lywelyn Fardd tua’r flwyddyn 1150. Hon yw’r gynharaf o dair awdl a ganwyd gan feirdd y ddeuddegfed ganrif i’r saint: bydd ‘Canu Tysilio’ gan Gynddelw Brydydd Mawr a ‘Chanu i Ddewi’ gan Wynfardd Brycheiniog yn ymddangos ar y wefan yn fuan iawn. Diogelwyd ‘Canu … Continue reading Ein testun cyntaf yn cael ei gyhoeddi ar lein!
Sgyrsiau diweddar yn Leeds a Marburg
Bu aelodau o’r tîm yn rhannu gwaith newydd yn deillio o’r prosiect dros yr haf. Trefnodd Jane Cartwright sesiwn ar seintiau Cymru ar gyfer Cynhadledd Ryngwladol Astudiaethau Canoloesol yn Leeds, a thraddododd hi a’i chyd-weithwyr, Martin Crampin a Jenny Day, bapurau yno. Gwahoddwyd Jane i Brifysgol Marburg yn yr Almaen hefyd i annerch cynulleidfa o … Continue reading Sgyrsiau diweddar yn Leeds a Marburg