Asa, Cyndeyrn a Seintiau Cymru

Tîm y prosiect yn eglwys gadeiriol Llanelwy.
David Parsons, Martin Crampin, David Callander ac Angela Kinney (ffotograffau: Jeanne Mehan)

Ar 4 Medi 2018 daeth cyfle i dîm y prosiect ymweld ag Eglwys Gadeiriol Llanelwy lle cawsom rannu ffrwyth ein hymchwil a chyflwyno’r syniadau ysgolheigaidd diweddaraf ynglŷn ag Asa a Chyndeyrn. Roedd gwaith David Callendar ar fuchedd Asa o Lyfr Coch Asa – llawysgrif a gollwyd, ond nid cyn i’r fuchedd gael ei thrawsgrifio yn gynnar yn yr ail ganrif ar bymtheg – o ddiddordeb neilltuol. Felly hefyd ei waith ar siarter sy’n ymwneud â Chyndeyrn a gafodd ei diystyru hyd yma ac sydd efallai’n dyddio o’r ddeuddegfed ganrif. Amlinellodd Angela Kinney anawsterau trawsgrifio a datgodio bucheddau Lladin canoloesol, a chynigiodd David Parsons bersbectif ieithyddol ar enwau hagiograffig. Mae dwy ffenest yn yr eglwys yn cynnwys delweddau o seintiau Cymreig, a soniodd Martin Crampin am eiconograffeg seintiau yn yr Oesoedd Canol a’r cyfnod modern.

Mae’r hyn y gallwn ni ei ddweud am seintiau yng Nghymru’r Oesoedd Canol yn aml yn cael ei wrthbwyso gan yr hyn na wyddom. Adlewyrchir hyn yn y ffaith mai rhannau’n unig o fuchedd Asa sydd wedi goroesi yn y trawsgrifiad: dim ond y prolog a hanes sefydlu’r eglwys yn Llanelwy, tra bo unrhyw ddeunydd a oedd yn ymwneud â bywyd a gweithredoedd Asa ei hun wedi ei golli am byth.