| |

Arddangosfa yn Llanilltud Fawr

Bwrddiau'r arddangosfa yn Llanilltud Fawr / Exhibition panels at Llantwit Major

Mae’r paneli arddangos sy’n ymwneud â’r prosiect bellach wedi eu codi yn Eglwys Sant Illtud, Llanilltud Fawr, ar gyfer y prynhawn o sgyrsiau a gynhelir yno ddydd Sadwrn, 7 Tachwedd. Cafodd saith o’r paneli eu harddangos yn Eglwys Gadeiriol Bangor ym mis Awst a mis Medi, ac mae dau banel ychwanegol y tro hwn yn ymwneud â Sant Illtud ac enwau lleoedd ym Morgannwg sy’n cynnwys enwau seintiau.

Am fanylion ynglŷn â’r digwyddiad a sut i gofrestru gweler y poster.