Abaty Caerloyw a Bucheddau’r Seintiau Cymreig

siaradwyr yng Nghaerloyw.
Angela Kinney, Martin Crampin, Paul Russell a Francesco Marzella

Cynhaliodd tîm y prosiect brynhawn o sgyrsiau yng nghabidyldy cadeirlan Caerloyw ar 3 Tachwedd 2018. Mae arwyddocâd Caerloyw yn gydnabyddedig fel canolbwynt i gasgliad o draddodiadau sy’n ymwneud â’r seintiau yng Nghymru, ac mae’r ffaith fod bucheddau Cadog, Gwynllyw, Padarn ac eraill wedi eu cynnwys yn nghasgliad Cotton Vespasian o fucheddau Lladin yn adlewyrchu patrwm eiddo cadeirlan Caerloyw yng Nghymru yn y ddeuddegfed ganrif.

Francesco Marzella speaking in the Chapter House at Gloucester Cathedral.Tynnodd Angela Kinney sylw at rai o’r cysylltiadau yn ei sgwrs hi, a chanolbwyntio ar ambell ystyriaeth benodol ynglŷn â’r traddodiadau croes neu anghyson sy’n ymwneud â rhai o’r bucheddau a geir yn y llawysgrif, sy’n codi cwestiynau am gynhyrchiad a’r gystadleuaeth rhwng gwahanol eglwysi wrth ddatgan eu hawliau. Trafododd Paul Russell y gwahaniaethau rhwng buchedd gyntaf Dyfrig (Dubricus) a’r ail, y ddwy i’w canfod yn Cotton Vespasian A. xiv. Mae’r fuchedd gynharaf, a geir yn Llyfr Llandaf, yn amlygu mor bwysig oedd Dyfrig i Landaf, a’r ail, a ysgrifennwyd gan Benedict, oedd yn fynach yng Nghaerloyw, yn adlewyrchu dylanwad Sieffre o Fynwy a’i Historia Regum Britanniae (Hanes Brenhinoedd Prydain, c.1137–8) gan roi llawer mwy o bwyslais ar archesgobaeth dybiedig y sant yng Nghaerllion.

Ymunodd Francesco Marzella â’r prosiect ym mis Hydref, a soniodd ef am gyfarfyddiad Caniwt ac Edmwnd ‘Ironside’ yn Alney, ger Caerloyw, yn gynnar yn yr unfed ganrif ar ddeg. Daeth sgyrsiau’r dydd i ben gyda chyflwyniad Martin Crampin i ddelweddau o Ddyfrig yn y bedwaredd ganrif ar ddeg a’r ugeinfed ganrif.