Achau’r Seintiau

Cristiolus yn Lledwigan yMon a Rystvd yNgheredigion
yNehevbarth meibion Howel Vychan ap Howel ap Emyr Llydaw

Bonedd y Saint, c.1150–1250

Golygfa o Lanrhystud, Ceredigion. Llun: David Parsons

Bedyddfaen, efallai o’r ddegfed ganrif, Eglwys Sant Cristiolus, Llangristiolus, Môn. Llun: Martin Crampin

Mae testunau sydd yn rhestru perthnasau teuluol seintiau yn anarferol mewn cyd-destun Ewropeaidd, ond yn nodweddiadol o draddodiadau Gwyddelig a Chymreig yn yr Oesoedd Canol.

Yma, mae’r seintiau a gysylltir â Llangristiolus ym Môn a Llanrhystud i’r de o Aberystwyth yn cael eu cyflwyno fel dau frawd a oedd yn ddisgynyddion i’r Emyr Llydaw chwedlonol, a oedd hefyd, fe honnir, yn gyndaid i Badarn a Chadfan. Roedd rhestrau o’r fath yn eithriadol o boblogaidd yng Nghymru, ac maent wedi goroesi mewn sawl copi llawysgrif, yn aml gydag ychwanegiadau a newidiadau sy’n adlewyrchu diddordebau a gwybodaeth leol y sawl a oedd yn eu casglu.

Seintiau yng Nghymru’r Oesoedd Canol
Bucheddau’r Seintiau
Cerddi i’r Seintiau
Seintiau yn y Cyfnod Modern