Santes Gwenfrewy yn Eglwys Gadeiriol Amwythig

Capel Gwenfrewy, Amwythig
Capel Santes Gwenfrewy, eglwys gadeiriol Amwythig. Llun: Martin Crampin

Daethpwyd â chreiriau Gwenfrewy o Wytherin i abaty Amwythig yn 1138. Dewiswyd y santes yn gyd-nawddsant ar gyfer esgobaeth Gatholig Amwythig, a ffurfiwyd yn 1851 ac a oedd yn ymestyn yn wreiddiol o Orllewin Canolbarth Lloegr ar draws Cymru yr holl ffordd i Fôn, cyn ffurfio esgobaeth Mynyw yn 1895. Agorwyd eglwys gadeiriol Amwythig yn 1856, wedi i’r pensaer ifanc Edward Pugin gymryd yr awenau ar ôl marw ei dad, A. W. N. Pugin, yn 1852.

Mae arddangosfa yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Amwythig ar hyn o bryd sy’n dathlu cyfraniad yr artist Margaret Rope, ac mae llawer o’i gwaith i’w weld yn yr eglwys gadeiriol. Ymddengys fod gan yr artist, a ddaeth yn lleian Garmelaidd yn 1923, ddiddordeb neilltuol yn Santes Gwenfrewy. Caiff ei phortreadu mewn nifer o ffenestri lliw gan Margaret Rope, er na wyddys ai’r artist oedd yn gyfrifol am ddewis y gwrthrych ar gyfer y gwaith comisiwn. Mae’r cartŵn o’i phortread o’r santes a wnaethpwyd ar gyfer eglwys Sant Pedr a Sant Paul, Newport (swydd Amwythig), i’w weld yn yr arddangosfa, ar fenthyg o’i gartref presennol yn Amgueddfa Treffynnon.

Ffenestr orllewinol yr eglwys gadeiriol oedd comisiwn mawr cyntaf Margaret Rope, ac mae’n cynnwys ffigwr Gwenfrewy gydag Oswallt, gyda golygfa oddi tani yn ei dangos wrth draed Caradog wedi iddo dorri ei phen. Mae ffenestri eraill sy’n ei phortreadu i’w cael yng nghapel Santes Gwenfrewy, a golygfa sy’n dangos ei chreiriau’n cael eu symud i Amwythig; gwnaethpwyd y rhain gan Hardman & Co., Birmingham, sef stiwdio gwydr lliw a sefydlwyd gan gyfaill i A. W. N. Pugin, John Hardman, yn 1845. Ceir penddelw cerfwedd o Wenfrewy hefyd yn y capel, ac mae’r gadeirlan hefyd yn gartref i un o’i chreiriau, sy’n cael ei gadw mewn creirfa a gynlluniwyd gan Margaret Rope.

Ffenestr o Sant Lawrens.
Ffenestr Sant Lawrens, c. 1920, eglwys gadeiriol Amwythig, gan Margaret Rope. Llun: Martin Crampin

Mae dwy ffenestr gan Rope yn y gadeirlan sy’n darlunio golygfeydd o fywydau seintiau eraill a chanddynt fucheddau canoloesol Cymraeg a olygir yn rhan o’n prosiect ni. Ceir dwy ddelwedd o Fuchedd Martin mewn ffenestr sy’n coffáu lladdedigion y Rhyfel Byd Cyntaf a Lawrens yw’r ffigwr sy’n sefyll yng nghanol ffenestr driphlyg sy’n cynnwys golygfeydd eraill o’i fywyd. Rydw i eto i ddarganfod golygfa o fywyd Lawrens o unrhyw gyfnod mewn eglwys yng Nghymru!