| |

Y Seintiau a Los Angeles

UCLA

Newydd ddychwelyd ar ôl bod yn rhoi papur ar fapio cwlt y seintiau yng Nghymru i 38ain Gynhadledd Geltaidd Flynyddol Prifysgol Califfornia, a gynhaliwyd yn Los Angeles, 10–12 Mawrth. Cyflwynais fy hoff esiampl, sef Sant Cynog o Frycheiniog – mewn ffurf estynedig ac am y tro olaf! – gan drafod y gwahanol elfennau sy’n rhan o dossier y sant, y proses o’u mapio, a’r cwestiynau sy’n codi o’r map hwnnw.

Cefais gyfle hefyd i weld ychydig o dde Califfornia, ac ymchwilio i seintiau mewn enwau lleoedd drwy ddal y Big Blue Bus i Santa Monica …