| |

Sgwrs i ddisgyblion Coleg Llanymddyfri

Statue of St David

Daeth dangosiad diweddaraf ein harddangosfa deithiol i ben ddydd Sadwrn, 12 Mawrth. Cyn datgymalu a phacio popeth, gofynnwyd i mi gyflwyno sgwrs i ddisgyblion Blwyddyn 9 o Goleg Llanymddyfri a oedd yn ymweld â Thyddewi am y penwythnos. Yn ogystal â defnyddio’r arddangosfa yn gymorth gweledol ar gyfer y sgwrs, cawsom gyfle i edrych ar rai o’r amrywiol ddelweddau o seintiau a geir yn yr eglwys gadeiriol.

Yn gynharach yn y dydd, roedd y disgyblion wedi cael eu tywys o gwmpas yr eglwys, ac wedi dychwelyd yn y prynhawn yn dipyn mwy mwdlyd ar ôl cerdded i lawr i Gapel Santes Non lle saif adfeilion capel canoloesol a’r capel Catholig presennol. Roedd eu hymweliad â’r eglwys gadeiriol dan ofal Janet Ingram, a oedd wedi ein croesawu ninnau i’r Ganolfan Addysg a Phererindod ar gyfer ein prynhawn o sgyrsiau ar 29 Chwefror.